Salm 119:158-171 beibl.net 2015 (BNET)

158. Mae gweld pobl heb ffydd yn codi pwys arna i,am eu bod nhw ddim yn cadw dy reolau di.

159. Dw i wrth fy modd hefo dy ofynion!O ARGLWYDD, cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo.

160. Mae popeth rwyt ti'n ddweud yn gwbl ddibynadwy;mae pob un o dy reolau cyfiawn yn para am byth.

161. Mae'r awdurdodau wedi fy erlid i ar gam!Ond mae dy eiriau di yn rhoi gwefr i mi.

162. Mae dy eiriau di yn fy ngwneud i mor hapus,fel rhywun sydd wedi dod o hyd i drysor gwerthfawr.

163. Dw i'n casáu ac yn ffieiddio diffyg ffydd;ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.

164. Dw i'n dy addoli di saith gwaith y dyddam dy fod ti'n dyfarnu'n gyfiawn.

165. Mae'r rhai sy'n caru dy ddysgeidiaeth di yn gwbl saff;does dim yn gwneud iddyn nhw faglu.

166. Dw i'n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, O ARGLWYDD!Dw i'n cadw dy orchmynion di;

167. dw i'n ufuddhau i dy ddeddfau diac yn eu caru nhw'n fawr.

168. Dw i'n ufuddhau i dy orchmynion a dy ddeddfau di.Ti'n gwybod yn iawn am bopeth dw i'n wneud.

169. Gwranda arna i'n pledio o dy flaen di, O ARGLWYDD;helpa fi i ddeall, fel rwyt ti'n addo gwneud.

170. Dw i'n cyflwyno beth dw i'n ofyn amdano i ti.Achub fi fel rwyt wedi addo.

171. Bydd moliant yn llifo oddi ar fy ngwefusau,am dy fod ti'n dysgu dy ddeddfau i mi.

Salm 119