Salm 119:142-154 beibl.net 2015 (BNET)

142. Mae dy gyfiawnder di yn para am byth;Mae dy ddysgeidiaeth di yn wir.

143. Pan dw i mewn trafferthion ac mewn trybini,mae dy orchmynion di yn hyfrydwch pur i mi.

144. Mae dy reolau cyfiawn yn para am byth;rho'r gallu i mi eu deall, i mi gael byw.

145. Dw i'n gweiddi arnat ti o waelod calon!“Ateb fi, ARGLWYDD,er mwyn i mi gadw dy ddeddfau.”

146. Dw i'n gweiddi arnat ti, “Achub fi,er mwyn i mi gadw dy reolau.”

147. Dw i'n codi cyn iddi wawrio i alw am dy help!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!

148. Dw i'n dal yn effro cyn i wylfa'r nos ddechrau,ac yn myfyrio ar dy eiriau.

149. Gwranda arna i, yn unol â dy gariad ffyddlon;O ARGLWYDD, rho fywyd i mi, yn unol â dy gyfiawnder!

150. Mae'r rhai sydd am wneud drwg i mi yn dod yn nes!Maen nhw'n bell iawn o dy ddysgeidiaeth di.

151. Ond rwyt ti bob amser yn agos, ARGLWYDD,ac mae dy orchmynion di i gyd yn wir.

152. Dw i wedi dysgu ers talwmfod dy reolau di yn aros am byth.

153. Edrych fel dw i'n dioddef, ac achub fi!dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.

154. Dadlau fy achos a helpa fi!Cadw fi'n saff, fel rwyt wedi addo gwneud.

Salm 119