132. Tro ata i, a bydd yn garedig ata i;dyna rwyt ti'n ei wneud i'r rhai sy'n caru dy enw di.
133. Dangos di'r ffordd ymlaen i mi;paid gadael i'r rhai drwg gael y llaw uchaf arna i!
134. Gollwng fi'n rhydd o afael y rhai sy'n fy ngormesu,er mwyn i mi wneud beth rwyt ti'n ei ddweud.
135. Bydd yn garedig at dy was,a dysga dy ddeddfau i mi.
136. Mae'r dagrau yn llifo fel afon gen iam fod pobl ddim yn ufudd i dy ddysgeidiaeth di.
137. Rwyt ti yn gyfiawn, O ARGLWYDD;ac mae dy reolau di yn gwbl deg.
138. Mae'r deddfau rwyt ti wedi eu rhoi yn gyfiawn;ac yn gwbl ddibynadwy.
139. Dw i'n gwylltio'n lânwrth weld fy ngelynion yn diystyru beth rwyt ti'n ddweud.
140. Mae dy eiriau di wedi eu profi'n wir,ac mae dy was wrth ei fodd gyda nhw.