114. Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!
115. Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg!Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.
116. Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw;paid gadael i mi gael fy siomi.
117. Cynnal fi a chadw fi'n saff,a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.
118. Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau –pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.
119. Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach!Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.
120. Mae meddwl amdanat ti yn codi croen gŵydd arna i;mae dy reolau di yn ddigon i godi ofn arna i.
121. Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda;paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi.
122. Plîs addo y byddi'n cadw dy was yn saff.Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.
123. Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i,ac i dy addewid sicr ddod yn wir.
124. Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was;dysga dy ddeddfau i mi.
125. Dy was di ydw i. Helpa fi i ddealla gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.
126. Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD!Mae'r bobl yma yn torri dy reolau.
127. Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di;mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.
128. Dw i'n dilyn dy ofynion di yn fanwl;dw i'n casáu pob ffordd ffals.
129. Mae dy ddeddfau di yn rhyfeddol,a dyna pam dw i'n eu cadw nhw.