Salm 119:107-127 beibl.net 2015 (BNET)

107. Dw i'n dioddef yn ofnadwy;O ARGLWYDD, adfywia fi, fel rwyt wedi addo!

108. O ARGLWYDD, derbyn fy offrwm o fawl,a dysga dy ddeddfau i mi.

109. Er bod fy mywyd mewn perygl drwy'r adeg,dw i ddim wedi diystyru dy ddysgeidiaeth di.

110. Mae pobl ddrwg wedi gosod trap i mi,ond dw i ddim wedi crwydro oddi wrth dy ofynion.

111. Mae dy ddeddfau di wedi cael eu rhoi i mi am byth;maen nhw'n bleser pur i mi!

112. Dw i'n benderfynol o ddilyn dy ddeddfau:mae'r wobr yn para am byth.

113. Dw i'n casáu pobl ddauwynebog;ond dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di.

114. Ti ydy'r lle saff i mi guddio! Ti ydy'r darian sy'n fy amddiffyn!Dy eiriau di sy'n rhoi gobaith i mi!

115. Ewch i ffwrdd, chi sy'n gwneud drwg!Dw i'n bwriadu cadw gorchmynion fy Nuw.

116. Cynnal fi, fel rwyt wedi addo, i mi gael byw;paid gadael i mi gael fy siomi.

117. Cynnal fi a chadw fi'n saff,a bydda i'n myfyrio ar dy ddeddfau di bob amser.

118. Ti'n gwrthod y rhai sy'n crwydro oddi wrth dy ddeddfau –pobl ffals a thwyllodrus ydyn nhw.

119. Ti'n taflu pobl ddrwg y byd i ffwrdd fel sothach!Felly dw i wrth fy modd hefo dy ddeddfau di.

120. Mae meddwl amdanat ti yn codi croen gŵydd arna i;mae dy reolau di yn ddigon i godi ofn arna i.

121. Dw i wedi gwneud beth sy'n iawn ac yn dda;paid gadael fi yn nwylo'r rhai sydd am wneud drwg i mi.

122. Plîs addo y byddi'n cadw dy was yn saff.Stopia'r bobl falch yma rhag fy ngormesu.

123. Mae fy llygaid wedi blino disgwyl i ti fy achub i,ac i dy addewid sicr ddod yn wir.

124. Dangos dy haelioni rhyfeddol at dy was;dysga dy ddeddfau i mi.

125. Dy was di ydw i. Helpa fi i ddealla gwybod yn union beth rwyt ti'n ei orchymyn.

126. Mae'n bryd i ti weithredu, ARGLWYDD!Mae'r bobl yma yn torri dy reolau.

127. Dw i'n meddwl y byd o dy orchmynion di;mwy nag aur, yr aur mwyaf coeth.

Salm 119