10. Roedd y paganiaid yn ymosod arna i;ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
11. Roedden nhw'n ymosod arna i o bob cyfeiriad;ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru nhw i ffwrdd.
12. Roedden nhw o'm cwmpas i fel haid o wenyn;ond dyma nhw'n diflannu mor sydyn â drain yn llosgi.Dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i'w gyrru i ffwrdd.
13. Roedden nhw'n gwasgu arna i'n galed,a bu bron i mi syrthio;ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu.
14. Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi!Fe sydd wedi fy achub i.
15. Mae pobl Dduw i'w clywed yn canu am y fuddugoliaeth yn eu pebyll,“Mae'r ARGLWYDD mor gryf!