1. Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2. Gadewch i Israel gyfan ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
3. Gadewch i'r offeiriaid ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
4. Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r ARGLWYDD ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”
5. Ro'n i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD.Dyma'r ARGLWYDD yn ateb ac yn fy helpu i ddianc.
6. Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr,felly fydd gen i ddim ofn.Beth all pobl ei wneud i mi?
7. Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr i'm helpu,felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio.
8. Mae'n llawer gwell troi at yr ARGLWYDD am lochesna trystio pobl feidrol!