Salm 118:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

2. Gadewch i Israel gyfan ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”

3. Gadewch i'r offeiriaid ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”

4. Gadewch i bawb arall sy'n addoli'r ARGLWYDD ddweud,“Mae ei haelioni yn ddiddiwedd.”

5. Ro'n i mewn helbul, a dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDD.Dyma'r ARGLWYDD yn ateb ac yn fy helpu i ddianc.

6. Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr,felly fydd gen i ddim ofn.Beth all pobl ei wneud i mi?

7. Mae'r ARGLWYDD ar fy ochr i'm helpu,felly bydda i'n gweld fy ngelynion yn syrthio.

Salm 118