5. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;llygaid, ond allan nhw ddim gweld;
6. clustiau, ond allan nhw ddim clywed;trwynau, ond allan nhw ddim arogli;
7. dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;traed, ond allan nhw ddim cerdded;a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!
8. Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw,yn troi'n debyg iddyn nhw!
9. Israel, cred di yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di.
10. Chi offeiriaid, credwch yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n eich helpu ac yn eich amddiffyn chi.