Salm 115:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. Pam dylai pobl y cenhedloedd ddweud,“Ble mae eu Duw nhw nawr?”

3. Y gwir ydy mae Duw yn y nefoedd,ac mae'n gwneud beth bynnag mae eisiau!

4. Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aurwedi eu siapio gan ddwylo dynol.

5. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;llygaid, ond allan nhw ddim gweld;

6. clustiau, ond allan nhw ddim clywed;trwynau, ond allan nhw ddim arogli;

7. dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;traed, ond allan nhw ddim cerdded;a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!

8. Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw,yn troi'n debyg iddyn nhw!

9. Israel, cred di yn yr ARGLWYDD!Fe sy'n dy helpu di ac yn dy amddiffyn di.

Salm 115