Salm 115:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Nid ni, O ARGLWYDD, nid ni –ti sy'n haeddu'r anrhydedd i gyd,am ddangos y fath gariad a ffyddlondeb.

2. Pam dylai pobl y cenhedloedd ddweud,“Ble mae eu Duw nhw nawr?”

3. Y gwir ydy mae Duw yn y nefoedd,ac mae'n gwneud beth bynnag mae eisiau!

4. Dydy eu heilunod nhw'n ddim ond arian ac aurwedi eu siapio gan ddwylo dynol.

5. Mae ganddyn nhw gegau, ond allan nhw ddim siarad;llygaid, ond allan nhw ddim gweld;

6. clustiau, ond allan nhw ddim clywed;trwynau, ond allan nhw ddim arogli;

7. dwylo, ond allan nhw ddim teimlo;traed, ond allan nhw ddim cerdded;a dydy eu gyddfau ddim yn gallu gwneud sŵn!

8. Mae'r bobl sy'n eu gwneud nhw,a'r bobl sydd yn eu haddoli nhw,yn troi'n debyg iddyn nhw!

Salm 115