Salm 111:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Haleliwia!Dw i'n diolch i'r ARGLWYDD o waelod calon,o flaen y gynulleidfa o'i bobl ffyddlon.

2. Mae'r ARGLWYDD yn gwneud pethau mor fawr!Maen nhw'n bleser pur i bawb sy'n myfyrio arnyn nhw.

3. Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas,a'i fod e bob amser yn ffyddlon.

4. Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud!Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!

5. Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon;mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e.

Salm 111