Salm 109:21-31 beibl.net 2015 (BNET)

21. Ond nawr, O ARGLWYDD, fy meistr,gwna rywbeth i'm helpu, er mwyn dy enw da.Mae dy gariad ffyddlon mor dda, felly achub fi!

22. Dw i'n dlawd ac yn anghenus,ac mae fy nghalon yn rasio o achos fy helbul.

23. Dw i'n diflannu fel cysgod ar ddiwedd y dydd.Dw i fel locust yn cael ei chwythu i ffwrdd.

24. Mae fy ngliniau yn wan ar ôl mynd heb fwyd;dw i wedi colli pwysau, ac yn denau fel ystyllen.

25. Dw i'n ddim byd ond testun sbort i bobl!Maen nhw'n edrych arna i ac yn ysgwyd eu pennau.

26. Helpa fi, O ARGLWYDD, fy Nuw;achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.

27. Wedyn bydd pobl yn gwybod mai dyna wyt ti'n wneud,ac mai ti, O ARGLWYDD, sydd wedi fy achub i.

28. Maen nhw'n melltithio, ond bendithia di fi!Wrth iddyn nhw ymosod, drysa di nhw,a bydd dy was yn dathlu!

29. Bydd y cyhuddwyr yn cael eu cywilyddio,byddan nhw'n gwisgo embaras fel clogyn.

30. Ond bydda i'n canu mawl i'r ARGLWYDD;ac yn ei ganmol yng nghanol y dyrfa fawr,

31. Mae e'n sefyll gyda'r un sydd mewn angen,ac yn ei achub o afael y rhai sy'n ei gondemnio.

Salm 109