10. Gwna i'w blant grwydro o adfeilion eu cartref,i gardota am fwyd.
11. Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd,ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth!
12. Paid gadael i rywun fod yn garedig ato;na dangos tosturi at ei blant!
13. Dinistria ei ddisgynyddion i gyd;gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth!
14. Boed i'r ARGLWYDD gofio drygioni ei gyndadau,a boed i bechod ei fam byth ddiflannu.
15. Boed i'r ARGLWYDD eu cofio nhw bob amser,ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes!
16. Dydy e erioed wedi dangos cariad!Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus,a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth.
17. Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl– felly melltithia di fe!Doedd e byth yn bendithio pobl– cadw fendith yn bell oddi wrtho!
18. Roedd melltithio iddo fel gwisgo ei ddillad!Roedd fel dŵr yn ei socian,neu olew wedi treiddio i'w esgyrn.