Salm 109:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. O Dduw, yr un dw i'n ei addoli,paid diystyru fi.

2. Mae pobl ddrwg a thwyllodrusyn siarad yn fy erbyn i,ac yn dweud celwydd amdana i.

3. Maen nhw o'm cwmpas ym mhobman gyda'u geiriau cas;yn ymosod arna i am ddim rheswm.

4. Dw i'n dangos cariad, ac maen nhw'n cyhuddo!Ond dw i'n dal i weddïo drostyn nhw.

5. Maen nhw'n talu drwg am dda,a chasineb am gariad.

6. “Anfon rywun drwg i ymosod arno!” medden nhw,“Gwna i rywun ei gyhuddo a mynd ag e i'r llys!

7. Anfon e i sefyll ei brawf,a chael ei ddedfrydu'n euog!Ystyria ei weddi yn bechod.

8. Paid gadael iddo gael byw'n hir!Gad i rywun arall gymryd ei waith.

9. Gwna ei blant yn amddifad,a'i wraig yn weddw!

10. Gwna i'w blant grwydro o adfeilion eu cartref,i gardota am fwyd.

11. Gwna i'r un mae mewn dyled iddo gymryd ei eiddo i gyd,ac i bobl ddieithr gymryd ei gyfoeth!

12. Paid gadael i rywun fod yn garedig ato;na dangos tosturi at ei blant!

13. Dinistria ei ddisgynyddion i gyd;gwna i enw'r teulu ddiflannu mewn un genhedlaeth!

14. Boed i'r ARGLWYDD gofio drygioni ei gyndadau,a boed i bechod ei fam byth ddiflannu.

15. Boed i'r ARGLWYDD eu cofio nhw bob amser,ac i'w henwau gael eu torri allan o hanes!

16. Dydy e erioed wedi dangos cariad!Mae wedi erlid pobl dlawd ac anghenus,a gyrru'r un sy'n ddigalon i'w farwolaeth.

17. Roedd e wrth ei fodd yn melltithio pobl– felly melltithia di fe!Doedd e byth yn bendithio pobl– cadw fendith yn bell oddi wrtho!

Salm 109