29. Gwnaeth i'r storm dawelu;roedd y tonnau'n llonydd.
30. Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu,ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis.
31. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!
32. Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa,a'i foli o flaen yr arweinwyr.
33. Mae e'n gallu troi afonydd yn anialwch,a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych,
34. tir ffrwythlon yn dir diffaitham fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg.
35. Neu gall droi'r anialwch yn byllau dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau!
36. Yna rhoi pobl newynog i fyw yno,ac adeiladu tref i setlo i lawr ynddi.
37. Maen nhw'n hau hadau yn y caeauac yn plannu coed gwinwydd,ac yn cael cynhaeaf mawr.
38. Mae'n eu bendithio a rhoi llawer o blant iddyn nhw,a dydy e ddim yn gadael iddyn nhw golli anifeiliaid.
39. Bydd y rhai sy'n gorthrymu yn colli pobl,yn dioddef pwysau gormes, trafferthion a thristwch.
40. Mae Duw yn dwyn anfri ar y bobl fawrac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau.
41. Ond mae'n cadw'r rhai sydd mewn angen yn saff,rhag iddyn nhw ddiodde,ac yn cynyddu eu teuluoedd fel preiddiau.
42. Mae'r rhai sy'n byw yn gywir yn gweld hyn ac yn dathlu –Ond mae'r rhai drwg yn gorfod tewi.