22. Gadewch iddyn nhw gyflwyno offrymau diolch iddo,a chanu'n llawen am y cwbl mae wedi ei wneud!
23. Aeth rhai eraill ar longau i'r môr,i ennill bywoliaeth ar y môr mawr.
24. Cawson nhw hefyd weld beth allai'r ARGLWYDD ei wneud,y pethau rhyfeddol wnaeth e ar y moroedd dwfn.
25. Roedd yn rhoi gorchymyn i wynt stormus godi,ac yn gwneud i'r tonnau godi'n uchel.
26. I fyny i'r awyr, ac i lawr i'r dyfnder â nhw!Roedd ganddyn nhw ofn am eu bywydau.
27. Roedd y cwch yn siglo a gwegian fel rhywun wedi meddwi,a doedd eu holl brofiad ar y môr yn dda i ddim.
28. Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.
29. Gwnaeth i'r storm dawelu;roedd y tonnau'n llonydd.
30. Roedden nhw mor falch fod y storm wedi tawelu,ac aeth Duw â nhw i'r porthladd o'u dewis.
31. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!
32. Gadewch iddyn nhw ei ganmol yn y gynulleidfa,a'i foli o flaen yr arweinwyr.
33. Mae e'n gallu troi afonydd yn anialwch,a ffynhonnau dŵr yn grasdir sych,
34. tir ffrwythlon yn dir diffaitham fod y bobl sy'n byw yno mor ddrwg.