Salm 107:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

2. Gadewch i'r rhai mae'r ARGLWYDD wedi eu gollwng yn rhydd ddweud hyn,ie, y rhai sydd wedi eu rhyddhau o afael y gelyn.

3. Maen nhw'n cael eu casglu o'r gwledydd eraill,o'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.

4. Roedden nhw'n crwydro ar goll yn yr anialwch gwyllt,ac yn methu dod o hyd i dre ble gallen nhw fyw.

5. Roedden nhw eisiau bwyd ac roedd syched arnyn nhw,ac roedden nhw wedi colli bob egni.

6. Dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion,

7. ac yn eu harwain nhw'n sythi le y gallen nhw setlo i lawr.

8. Gadewch iddyn nhw ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad ffyddlon,a'r pethau rhyfeddol mae wedi eu gwneud ar ran pobl!

9. Mae wedi rhoi diod i'r sychedig,a bwyd da i'r rhai oedd yn llwgu.

10. Roedd rhai yn byw mewn tywyllwch dudew,ac yn gaeth mewn cadwyni haearn,

11. am eu bod nhw wedi gwrthod gwrando ar Dduw,a gwrthod gwneud beth roedd y Goruchaf eisiau.

12. Deliodd hefo nhw drwy wneud iddyn nhw ddiodde.Roedden nhw'n baglu, a doedd neb i'w helpu.

13. Yna dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD yn eu trybini,a dyma fe'n eu hachub o'u trafferthion.

Salm 107