Salm 106:42-47 beibl.net 2015 (BNET)

42. Roedd gelynion yn eu gormesu;roedden nhw dan eu rheolaeth nhw'n llwyr!

43. Er bod Duw wedi eu hachub nhw dro ar ôl tro,roedden nhw'n dal yn ystyfnig ac yn tynnu'n groes.Aeth pethau o ddrwg i waeth o achos eu drygioni.

44. Ond pan oedd Duw'n gweld eu bod nhw mewn trybiniac yn eu clywed nhw'n gweiddi am help,

45. roedd yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e iddyn nhwac yn ymatal o achos ei gariad atyn nhw.

46. Gwnaeth i bawb oedd yn eu dal nhw'n gaethfod yn garedig atyn nhw.

47. Achub ni, O ARGLWYDD ein Duw!Casgla ni at ein gilydd o blith y cenhedloedd!Wedyn byddwn ni'n diolch i ti, y Duw sanctaidd,ac yn brolio'r cwbl rwyt ti wedi ei wneud.

Salm 106