Salm 106:34-41 beibl.net 2015 (BNET)

34. Wedyn, wnaethon nhw ddim dinistrio'r cenhedloeddfel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.

35. Yn lle hynny dyma nhw'n cymysgu gyda'r cenhedloedda dechrau byw yr un fath â nhw.

36. Roedden nhw'n addoli eu duwiau,a dyma hynny'n gwneud iddyn nhw faglu.

37. Dyma nhw'n aberthu eu meibiona'u merched i gythreuliaid!

38. Ie, tywallt gwaed plant diniwed– gwaed eu meibion a'u merched eu hunain! –a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau Canaan.Roedd y tir wedi ei lygru gan y gwaed gafodd ei dywallt.

39. Roedd beth wnaethon nhw'n eu llygru nhw;roedden nhw'n ymddwyn yn anffyddlon.

40. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwylltio'n lân hefo nhw!Roedd yn ffieiddio ei bobl ei hun!

41. Dyma fe'n eu rhoi nhw yn nwylo'r cenhedloedd;a gadael i'w gelynion eu rheoli.

Salm 106