Salm 106:27-38 beibl.net 2015 (BNET)

27. Byddai'n gwasgaru eu disgynyddion i'r cenhedloedda'u chwalu nhw drwy'r gwledydd.

28. A dyma nhw'n dechrau addoli Baal-peor,a bwyta aberthau wedi eu cyflwyno i bethau marw!

29. Roedd beth wnaethon nhw'n gwneud Duw yn ddig,a dyma bla yn mynd ar led yn eu plith.

30. Yna dyma Phineas yn ymyrryd,a dyma'r pla yn stopio.

31. Cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw,a hynny am byth!

32. Dyma nhw'n digio Duw eto wrth Ffynnon Meribaa bu'n rhaid i Moses ddiodde o'u hachos.

33. Roedden nhw wedi ei wneud e mor chwerwnes iddo ddweud pethau byrbwyll.

34. Wedyn, wnaethon nhw ddim dinistrio'r cenhedloeddfel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.

35. Yn lle hynny dyma nhw'n cymysgu gyda'r cenhedloedda dechrau byw yr un fath â nhw.

36. Roedden nhw'n addoli eu duwiau,a dyma hynny'n gwneud iddyn nhw faglu.

37. Dyma nhw'n aberthu eu meibiona'u merched i gythreuliaid!

38. Ie, tywallt gwaed plant diniwed– gwaed eu meibion a'u merched eu hunain! –a'u haberthu nhw i eilun-dduwiau Canaan.Roedd y tir wedi ei lygru gan y gwaed gafodd ei dywallt.

Salm 106