Salm 106:17-31 beibl.net 2015 (BNET)

17. Agorodd y ddaear a llyncu Dathan,a gorchuddio'r rhai oedd gydag Abiram.

18. Cafodd tân ei gynnau yn eu plith nhw,a dyma'r fflamau yn llosgi'r bobl ddrwg hynny.

19. Wedyn dyma nhw'n gwneud eilun o darw yn Sinai,a phlygu i addoli delw o fetel!

20. Cyfnewid y Duw bendigedigam ddelw o ychen sy'n bwyta glaswellt!

21. Roedden nhw wedi anghofio'r Duw achubodd nhw!Anghofio'r Duw wnaeth bethau mor fawr yn yr Aifft –

22. y gwyrthiau rhyfeddol yn nhir Cham,a'r pethau anhygoel wrth y Môr Coch.

23. Pan oedd Duw yn bygwth eu dinistrio nhw,dyma Moses, y dyn oedd wedi ei ddewis,yn sefyll yn y bwlchac yn troi ei lid i ffwrdd.

24. Wedyn dyma nhw'n gwrthod y tir hyfryd,ac yn gwrthod credu yr addewid roddodd e.

25. Roedden nhw'n cwyno yn eu pebyllac yn gwrthod bod yn ufudd i'r ARGLWYDD.

26. Felly dyma Duw yn mynd ar ei lwy byddai'n eu lladd nhw yn yr anialwch!

27. Byddai'n gwasgaru eu disgynyddion i'r cenhedloedda'u chwalu nhw drwy'r gwledydd.

28. A dyma nhw'n dechrau addoli Baal-peor,a bwyta aberthau wedi eu cyflwyno i bethau marw!

29. Roedd beth wnaethon nhw'n gwneud Duw yn ddig,a dyma bla yn mynd ar led yn eu plith.

30. Yna dyma Phineas yn ymyrryd,a dyma'r pla yn stopio.

31. Cafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw,a hynny am byth!

Salm 106