1. Haleliwia!Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni;Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2. Pwy sy'n gallu dweud am yr holl bethau mawrmae'r ARGLWYDD wedi eu gwneud?Pwy sy'n gallu dweud gymaint mae e'n haeddu ei foli?
3. Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n byw yn gywir,ac yn gwneud beth sy'n iawn bob amser!
4. Cofia fi, O ARGLWYDD, pan fyddi di'n helpu dy bobl;sylwa arna i pan fyddi di'n eu hachub nhw!
5. Dw i eisiau gweld y rhai rwyt ti wedi eu dewis yn llwyddo,dw i eisiau rhannu eu llawenydd nhw,a dathlu gyda dy bobl di.
6. Dŷn ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu yn dy erbyn di;dŷn ni wedi mynd ar gyfeiliorn, a gwneud drwg.
7. Wnaeth ein hynafiaid yn yr Aifft ddim gwerthfawrogi dy wyrthiau rhyfeddol.Dyma nhw'n anghofio popeth wnest ti yn dy gariad,a gwrthryfela yn erbyn y Duw Goruchaf wrth y Môr Coch.
8. Ac eto achubodd nhw, er mwyn ei enw da,ac er mwyn dangos ei nerth.
9. Gwaeddodd ar y Môr Coch a'i sychu!Yna eu harwain drwy'r dyfnder, fel petai'n dir anial.
10. Cadwodd nhw'n saff rhag y rhai oedd yn eu casáu,a'u rhyddhau o afael y gelyn.
11. Dyma'r dŵr yn llifo'n ôl dros y gelynion,gan adael dim un ar ôl yn fyw.
12. Roedden nhw'n credu beth ddwedodd e wedyn,ac yn canu mawl iddo!
13. Ond dyma nhw'n anghofio'r cwbl wnaeth e'n fuan iawn!Wnaethon nhw ddim disgwyl am ei arweiniad.
14. Roedden nhw'n ysu am gael cig yn yr anialwch,a dyma nhw'n rhoi Duw ar brawf yn y tir sych.