6. Ie, chi blant ei was Abraham;plant Jacob mae wedi eu dewis.
7. Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e;yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.
8. Mae e'n cofio ei ymrwymiad bob amser,a'i addewid am fil o genedlaethau –
9. yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,a'r addewid wnaeth ar lw i Isaac.
10. Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob –ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!
11. “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai,“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”
12. Dim ond criw bach ohonyn nhw oedd –rhyw lond dwrn yn byw yno dros dro,
13. ac yn crwydro o un wlad i'r llall,ac o un deyrnas i'r llall.
14. Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:
15. “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i;peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”
16. Ond wedyn daeth newyn ar y wlad;cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw.
17. Ond roedd wedi anfon un o'u blaenau,sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas.
18. Roedd ei draed mewn cyffion;roedd coler haearn am ei wddf,
19. nes i'w eiriau ddod yn wirac i neges yr ARGLWYDD ei brofi'n iawn.