31. Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed –gwybed drwy'r tir ym mhobman.
32. Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw,a mellt drwy'r wlad i gyd.
33. Taro eu gwinwydd a'u coed ffigys,a bwrw coed i lawr drwy'r wlad.
34. Gorchymyn anfon locustiaid –llawer iawn gormod ohonyn nhw i'w cyfri.
35. Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd,ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir!
36. Yna lladd plentyn hynaf pob teulu drwy'r wlad –ffrwyth cyntaf eu cyfathrach.
37. Daeth ag Israel allan yn cario arian ac aur!Doedd neb drwy'r llwythau i gyd yn baglu.
38. Roedd pobl yr Aifft mor falch pan aethon nhw,achos roedd Israel wedi codi dychryn arnyn nhw.
39. Wedyn rhoddodd Duw gwmwl i'w cysgodi,a tân i roi golau yn y nos.
40. Dyma nhw'n gofyn am fwyd, a dyma soflieir yn dod;rhoddodd ddigonedd o fwyd iddyn nhw o'r awyr.
41. Holltodd graig, nes bod dŵr yn pistyllio allan ohoni;roedd yn llifo fel afon drwy dir sych.
42. Oedd, roedd Duw'n cofio'r addewid cysegredigoedd wedi ei wneud i'w was Abraham.
43. Daeth â'i bobl allan yn dathlu!Roedd y rhai wedi eu dewis ganddo'n bloeddio canu.
44. Rhoddodd dir y cenhedloedd iddyn nhw;cawson nhw fwynhau ffrwyth llafur pobl eraill.
45. Gwnaeth hyn er mwyn iddyn nhw gadw ei reolaua bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.Haleliwia!