Salm 105:28-35 beibl.net 2015 (BNET)

28. Anfon tywyllwch, ac roedd hi'n dywyll iawn!Wnaethon nhw ddim herio beth ddwedodd.

29. Troi eu dŵr nhw yn waednes i'r pysgod i gyd farw.

30. Llenwi'r wlad hefo llyffaint –hyd yn oed y palasau brenhinol.

31. Rhoddodd orchymyn, a daeth haid o bryfed –gwybed drwy'r tir ym mhobman.

32. Anfonodd stormydd cenllysg yn lle glaw,a mellt drwy'r wlad i gyd.

33. Taro eu gwinwydd a'u coed ffigys,a bwrw coed i lawr drwy'r wlad.

34. Gorchymyn anfon locustiaid –llawer iawn gormod ohonyn nhw i'w cyfri.

35. Roedden nhw'n difetha'r planhigion i gyd,ac yn bwyta popeth oedd yn tyfu ar y tir!

Salm 105