Salm 105:14-24 beibl.net 2015 (BNET)

14. Wnaeth e ddim gadael i neb eu gormesu nhw;roedd wedi rhybuddio brenhinoedd amdanyn nhw:

15. “Peidiwch cyffwrdd fy mhobl sbesial i;peidiwch gwneud niwed i'm proffwydi.”

16. Ond wedyn daeth newyn ar y wlad;cymerodd eu bwyd oddi arnyn nhw.

17. Ond roedd wedi anfon un o'u blaenau,sef Joseff, gafodd ei werthu fel caethwas.

18. Roedd ei draed mewn cyffion;roedd coler haearn am ei wddf,

19. nes i'w eiriau ddod yn wirac i neges yr ARGLWYDD ei brofi'n iawn.

20. Dyma'r brenin yn ei ryddhau o'r carchar;llywodraethwr y cenhedloedd yn ei ollwng yn rhydd.

21. Gwnaeth e'n gyfrifol am ei balas,a rhoi iddo'r awdurdod i reoli popeth oedd ganddo.

22. Disgyblu'r arweinwyr eraill fel y mynnai,a dysgu doethineb i'r cynghorwyr hŷn.

23. Yna dyma Israel yn symud i'r Aifft;aeth Jacob i fyw dros dro yn nhir Cham.

24. Gwnaeth Duw i'w bobl gael llawer o blant,llawer mwy na'i gelynion nhw.

Salm 105