Salm 105:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Diolchwch i'r ARGLWYDD, a galw ar ei enw!Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud.

2. Canwch iddo, a defnyddio cerddoriaeth i'w foli!Dwedwch am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.

3. Broliwch ei enw sanctaidd!Boed i bawb sy'n ceisio'r ARGLWYDD ddathlu.

4. Dewch at yr ARGLWYDD, profwch ei nerth;ceisiwch ei gwmni bob amser.

5. Cofiwch y pethau rhyfeddol a wnaeth –ei wyrthiau, a'r cwbl y gwnaeth ei farnu!

6. Ie, chi blant ei was Abraham;plant Jacob mae wedi eu dewis.

7. Yr ARGLWYDD ein Duw ni ydy e;yr un sy'n barnu'r ddaear gyfan.

8. Mae e'n cofio ei ymrwymiad bob amser,a'i addewid am fil o genedlaethau –

9. yr ymrwymiad wnaeth e i Abraham,a'r addewid wnaeth ar lw i Isaac.

10. Yna ei gadarnhau yn rheol i Jacob –ymrwymiad i Israel oedd i bara am byth!

11. “Dw i'n rhoi gwlad Canaan i chi” meddai,“yn etifeddiaeth i chi ei meddiannu.”

Salm 105