Salm 104:8-20 beibl.net 2015 (BNET)

8. – cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoeddac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo.

9. Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi,i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.

10. Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.

11. Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed,a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched.

12. Mae adar yn nythu wrth eu hymylac yn canu yng nghanol y dail.

13. Ti sy'n dyfrio'r mynyddoedd o dy balas uchel.Ti'n llenwi'r ddaear â ffrwythau.

14. Ti sy'n rhoi glaswellt i'r gwartheg;planhigion i bobl eu tyfuiddyn nhw gael bwyd o'r tir –

15. gwin i godi calon,olew i roi sglein ar eu hwynebau,a bara i'w cadw nhw'n fyw.

16. Mae'r coed anferth yn cael digon i'w yfed –y cedrwydd blannodd yr ARGLWYDD yn Libanus

17. ble mae'r adar yn nythu,a'r coed pinwydd ble mae'r storc yn cartrefu.

18. Mae'r mynyddoedd uchel yn gynefin i'r geifr gwyllt,a'r clogwyni yn lloches i'r brochod.

19. Ti wnaeth y lleuad i nodi'r tymhorau;a'r haul, sy'n gwybod pryd i fachlud.

20. Ti sy'n dod â'r tywyllwch iddi nosi,pan mae anifeiliaid y goedwig yn dod allan.

Salm 104