Salm 104:4-11 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ti sy'n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti,a fflamau o dân yn weision.

5. Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini,er mwyn iddi beidio gwegian byth.

6. Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg;roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.

7. Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi,a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd,

8. – cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoeddac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo.

9. Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi,i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.

10. Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.

11. Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed,a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched.

Salm 104