30. Ond pan wyt ti'n anadlu, maen nhw'n cael eu creu,ac mae'r tir yn cael ei adfywio.
31. Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth!Boed i'r ARGLWYDD fwynhau y cwbl a wnaeth!
32. Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu!Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu!
33. Dw i'n mynd i ganu i'r ARGLWYDD tra bydda i byw!Moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i.
34. Boed i'm myfyrdod ei blesio.Dw i'n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD.
35. Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o'r tir,ac i bobl ddrwg beidio รข bod ddim mwy.Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!Haleliwia!