3. Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth,a gwneud dy gerbyd o'r cymylaui deithio ar adenydd y gwynt.
4. Ti sy'n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti,a fflamau o dân yn weision.
5. Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini,er mwyn iddi beidio gwegian byth.
6. Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg;roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.
7. Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi,a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd,
8. – cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoeddac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo.
9. Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi,i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.
10. Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.
11. Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed,a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched.
12. Mae adar yn nythu wrth eu hymylac yn canu yng nghanol y dail.
13. Ti sy'n dyfrio'r mynyddoedd o dy balas uchel.Ti'n llenwi'r ddaear â ffrwythau.