Salm 104:24-35 beibl.net 2015 (BNET)

24. O ARGLWYDD, rwyt wedi creucymaint o wahanol bethau!Rwyt wedi gwneud y cwbl mor ddoeth.Mae'r ddaear yn llawn o dy greaduriaid di!

25. Draw acw mae'r môr mawr sy'n lledu i bob cyfeiriad,a phethau byw na ellid byth eu cyfri ynddo –creaduriaid bach a mawr.

26. Mae'r llongau yn teithio arno,a'r morfil a greaist i chwarae ynddo.

27. Maen nhw i gyd yn dibynnu arnat tii roi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.

28. Ti sy'n ei roi a nhw sy'n ei fwyta.Ti'n agor dy law ac maen nhw'n cael eu digoni.

29. Pan wyt ti'n troi dy gefn arnyn nhw, maen nhw'n dychryn.Pan wyt ti'n cymryd eu hanadl oddi arnyn nhw,maen nhw'n marw ac yn mynd yn ôl i'r pridd.

30. Ond pan wyt ti'n anadlu, maen nhw'n cael eu creu,ac mae'r tir yn cael ei adfywio.

31. Boed i ysblander yr ARGLWYDD gael ei weld am byth!Boed i'r ARGLWYDD fwynhau y cwbl a wnaeth!

32. Dim ond iddo edrych ar y ddaear, mae hi'n crynu!Pan mae'n cyffwrdd y mynyddoedd, maen nhw'n mygu!

33. Dw i'n mynd i ganu i'r ARGLWYDD tra bydda i byw!Moli fy Nuw ar gerddoriaeth tra bydda i.

34. Boed i'm myfyrdod ei blesio.Dw i'n mynd i fod yn llawen yn yr ARGLWYDD.

35. Boed i bechaduriaid gael eu dinistrio o'r tir,ac i bobl ddrwg beidio â bod ddim mwy.Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!Haleliwia!

Salm 104