1. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!O ARGLWYDD, fy Nuw, rwyt ti mor fawr!Rwyt wedi dy wisgo ag ysblander ac urddas.
2. Mae mantell o oleuni wedi ei lapio amdanat.Ti wnaeth ledu'r awyr fel pabell uwch ein pennau.
3. Ti wnaeth osod trawstiau dy balas yn uwch fyth,a gwneud dy gerbyd o'r cymylaui deithio ar adenydd y gwynt.
4. Ti sy'n gwneud y gwyntoedd yn negeswyr i ti,a fflamau o dân yn weision.
5. Ti wnaeth osod y ddaear ar ei sylfeini,er mwyn iddi beidio gwegian byth.
6. Roedd y dyfroedd dwfn yn ei gorchuddio fel gwisg;roedd dŵr uwchben y mynyddoedd.
7. Ond dyma ti'n gweiddi, a dyma nhw'n ffoi,a rhuthro i ffwrdd rhag dy daranau swnllyd,
8. – cododd y mynyddoedd, suddodd y dyffrynnoeddac aeth y dŵr i'r lle roeddet ti wedi ei baratoi iddo.
9. Gosodaist ffiniau allai'r moroedd ddim eu croesi,i'w rhwystro rhag gorchuddio'r ddaear byth eto.
10. Ti sy'n gwneud i nentydd lifo rhwng yr hafnau,a ffeindio'i ffordd i lawr rhwng y mynyddoedd.
11. Mae'r anifeiliaid gwylltion yn cael yfed,a'r asynnod gwylltion yn torri eu syched.
12. Mae adar yn nythu wrth eu hymylac yn canu yng nghanol y dail.