Salm 103:9-21 beibl.net 2015 (BNET)

9. Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,nac yn dal dig am byth.

10. Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.

11. Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.

12. Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.

13. Fel mae tad yn caru ei blant,mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.

14. Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni;mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.

15. Mae bywyd dynol fel glaswellt –mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;

16. pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd;ble roedd does dim sôn amdano.

17. Ond mae cariad yr ARGLWYDD at y rhai sy'n ei barchuyn para am byth bythoedd!Mae e'n cadw ei air i genedlaethau o blant –

18. sef y rhai sy'n ffyddlon i'w ymrwymiad,ac sy'n gofalu gwneud beth mae e'n ddweud.

19. Mae'r ARGLWYDD wedi sefydlu ei orsedd yn y nefoedd,ac mae'n teyrnasu yn frenin dros bopeth!

20. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion! –chi rai cryfion sy'n gwneud beth mae'n ddweudsy'n gwrando ac yn ufudd iddo.

21. Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl fyddinoedd! –chi weision sy'n ei wasanaethu;

Salm 103