6. Mae'r ARGLWYDD bob amser yn deg,ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
7. Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw,a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.
8. Mae'r ARGLWYDD mor drugarog a charedig;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!
9. Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,nac yn dal dig am byth.
10. Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.
11. Fel mae'r nefoedd yn uchel uwch y ddaear,mae ei gariad ffyddlon fel tŵr dros y rhai sy'n ei barchu.
12. Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin,mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.
13. Fel mae tad yn caru ei blant,mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n ei barchu.
14. Ydy, mae e'n gwybod am ein defnydd ni;mae'n cofio mai dim ond pridd ydyn ni.
15. Mae bywyd dynol fel glaswellt –mae fel blodyn gwyllt, yn tyfu dros dro;
16. pan mae'r gwynt yn dod heibio, mae wedi mynd;ble roedd does dim sôn amdano.