Salm 103:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!Y cwbl ohono i, bendithia'i enw sanctaidd!

2. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD!Paid anghofio'r holl bethau caredig a wnaeth.

3. Mae wedi maddau dy fethiant i gyd,ac wedi iacháu pob salwch oedd arnat.

4. Mae wedi dy gadw di rhag mynd i'r bedd,ac wedi dy goroni gyda'i gariad a'i drugaredd.

5. Mae wedi rhoi mwy na digon o bethau da i ti,nes gwneud i ti deimlo'n ifanc eto,yn gryf ac yn llawn bywyd fel eryr!

6. Mae'r ARGLWYDD bob amser yn deg,ac yn rhoi cyfiawnder i'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.

7. Dwedodd wrth Moses sut oedd e am i ni fyw,a dangosodd i bobl Israel beth allai ei wneud.

8. Mae'r ARGLWYDD mor drugarog a charedig;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!

9. Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd,nac yn dal dig am byth.

10. Wnaeth e ddim delio gyda'n pechodau ni fel roedden ni'n haeddu,na talu'n ôl i ni am ein holl fethiant.

Salm 103