Ruth 4:5-13 beibl.net 2015 (BNET)

5. Wedyn dyma Boas yn dweud, “Pan fyddi di'n cymryd y tir, bydd rhaid i ti gymryd Ruth y Foabes hefyd. Ruth ydy gweddw'r dyn sydd wedi marw. Dy gyfrifoldeb di fydd codi etifedd iddo i gadw ei enw ar ei etifeddiaeth.”

6. “Alla i ddim ei brynu felly,” meddai'r perthynas, “neu bydda i'n difetha fy etifeddiaeth fy hun. Cymer di'r cyfrifoldeb i'w brynu. Alla i ddim.”

7. (Dyma oedd y drefn yn Israel ers talwm wrth drosglwyddo'r hawl i brynu eiddo yn ôl: byddai dyn yn tynnu un o'i sandalau a'i rhoi hi i'r llall. Dyna oedd y ffordd yn Israel o gadarnhau y cytundeb.)

8. Felly, dyma'r perthynas agos yn dweud wrth Boas, “Cymer di'r hawl i'w brynu,” a dyma fe'n tynnu ei sandal a'i rhoi i Boas.

9. Felly dyma Boas yn dweud wrth yr arweinwyr a phawb arall oedd yno, “Dych chi'n dystion, heddiw, fy mod i'n mynd i brynu gan Naomi bopeth oedd piau Elimelech a'i feibion Cilion a Machlon.

10. Dw i hefyd yn derbyn y cyfrifoldeb am Ruth y Foabes, gweddw Machlon. Dw i'n ei chymryd hi'n wraig i mi er mwyn codi etifedd i gadw enw'r un fu farw ar ei etifeddiaeth, rhag i'r enw ddiflannu o'r dref. Dych chi'n dystion i hyn, heddiw!”

11. A dyma'r arweinwyr a phawb arall oedd yn y llys yn dweud, “Ydyn, dŷn ni'n dystion. Boed i Dduw wneud y ferch yma sy'n dod i dy dŷ di yn debyg i Rachel a Lea, y ddwy sefydlodd Israel. A boed i tithau lwyddo yn Effrata, a gwneud enw i ti dy hun yn Bethlehem.

12. A thrwy'r ferch ifanc yma mae e wedi ei rhoi i ti, boed i Dduw wneud dy deulu di fe teulu Perets roddodd Tamar i Jwda.”

13. Felly dyma Boas yn priodi Ruth ac yn cysgu gyda hi. Dyma'r ARGLWYDD yn gadael iddi feichiogi, a chafodd fab.

Ruth 4