1. Roedd gan Naomi berthynas i'w gŵr o'r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i'r un teulu ag Elimelech.
2. Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i'r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.”“Dos di, fy merch i,” meddai Naomi.
3. A dyma Ruth yn mynd i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech.
4. A pwy fyddai'n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw.A dyma nhw'n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!”
5. A dyma Boas yn gofyn i'r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae'r ferch acw'n perthyn?”
6. “Hi ydy'r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw.
7. “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i'r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi'n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.”
8. A dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o'r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda'r merched sy'n gweithio i mi.
9. Sylwa ble fyddan nhw'n gweithio, a'u dilyn nhw. Bydda i'n siarsio'r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A pan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o'r llestri fydd fy ngweision i wedi eu llenwi.”
10. Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?”
11. “Dw i wedi clywed am y cwbl wyt i wedi ei wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr di farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti.
12. Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dan ei adain e rwyt wedi dod i gysgodi.”