16. Ond atebodd Ruth, “Paid pwyso arna i i dy adael di a troi cefn arnat ti. Dw i am fynd i ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi.
17. Ble bynnag fyddi di yn marw, dyna ble fyddai i yn marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni'n dwy.”
18. Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth.
19. A dyma'r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem.Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?”