Rhufeiniaid 9:20-31 beibl.net 2015 (BNET)

20. Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi ei siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam rwyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’”

21. Oes gan y crochenydd ddim hawl i ddefnyddio'r un lwmp o glai i wneud llestr crand neu i wneud llestr fydd yn dal sbwriel?

22. A'r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a'i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda'r rhai sy'n haeddu dim byd ond cosb, ac sy'n dda i ddim ond i gael eu dinistrio!

23. Ac mae'n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a'i rannu gyda'r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi eu paratoi ar gyfer hynny o'r dechrau cyntaf.

24. Ac ie, ni ydy'r rheiny! – dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd!

25. Fel mae'n dweud yn llyfr Hosea: “Galwaf ‛nid fy mhobl‛ yn bobl i mi; a ‛heb ei charu‛ yn un a gerir”

26. a hefyd, “Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, ‘Dych chi ddim yn bobl i mi’ byddan nhw'n cael eu galw yn blant y Duw byw.”

27. Ac mae Eseia'n dweud fel hyn am Israel: “Hyd yn oed petai pobl Israel mor niferus â thywod y môr, dim ond gweddillion – rhyw nifer fechan – fydd yn cael eu hachub,

28. Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen, ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.”

29. Mae'n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach: “Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni'n fyw, bydden ni wedi ein dinistrio fel Sodom, ac wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.”

30. Felly beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Mae'n golygu fod pobl o genhedloedd eraill – pobl oedd ddim yn ceisio dilyn Duw – wedi cael eu derbyn i berthynas iawn gyda Duw trwy gredu.

31. Ond mae pobl Israel, oedd wedi meddwl y byddai'r Gyfraith yn eu gwneud nhw'n iawn gyda Duw, wedi methu cadw'r Gyfraith honno.

Rhufeiniaid 9