4. Mae'r gallu i ddal ati yn cryfhau ein cymeriad ni, a dyna sy'n rhoi i ni'r gobaith hyderus sydd gynnon ni.
5. Dŷn ni'n gwybod y byddwn ni ddim yn cael ein siomi yn y gobaith yna, am fod Duw eisoes wedi tywallt ei gariad yn ein calonnau trwy roi'r Ysbryd Glân i ni!
6. Pan oedd pethau'n gwbl anobeithiol arnon ni, dyma'r Meseia yn dod ar yr adeg iawn i farw droson ni rai drwg!
7. Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da.
8. Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i'r Meseia farw droson ni pan roedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!
9. Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi ei dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni'n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi!
10. Os mai marwolaeth Mab Duw wnaeth ein perthynas ni â Duw yn iawn (a hynny pan roedden ni'n dal yn elynion iddo!), does dim amheuaeth o gwbl, gan ein bod ni bellach yn y berthynas yma, y byddwn ni'n cael ein hachub am ei fod yn fyw!
11. Dŷn ni'n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma'n bosib.
12. Daeth pechod i'r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.
13. Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi'r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i'w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl.