Rhufeiniaid 5:12-21 beibl.net 2015 (BNET)

12. Daeth pechod i'r byd drwy un dyn, a marwolaeth o ganlyniad i hynny. Ac mae pawb yn marw, am fod pawb wedi pechu.

13. Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi'r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i'w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl.

14. Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw'n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda trwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o'r Meseia oedd yn mynd i ddod.

15. Ac eto tasen ni'n cymharu'r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw'n wahanol iawn i'w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) – ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw!

16. Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy'n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae'r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni'n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau.

17. Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy'n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol.

18. Felly, canlyniad Adda'n troseddu oedd condemnio'r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i'r ddynoliaeth.

19. Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A'r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.

20. Pwrpas rhoi'r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw'n troseddu. Ond tra roedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm.

21. Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw'n cael bywyd tragwyddol – o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.

Rhufeiniaid 5