12. Mae pawb wedi troi cefn arno, ac yn dda i ddim. Does neb yn gwneud daioni – dim un!”
13. “Mae eu geiriau'n drewi fel beddau agored; dim ond twyll sydd ar eu tafodau.” “Mae gwenwyn neidr dan eu gwefusau.”
14. “Mae eu cegau yn llawn melltith a chwerwedd.”
15. “Maen nhw'n barod iawn i ladd;
16. mae dinistr a dioddefaint yn eu dilyn nhw i bobman,
17. Dyn nhw'n gwybod dim am wir heddwch.”
18. “Does ganddyn nhw ddim parch at Dduw o gwbl.”
19. Siarad am yr Iddewon mae Duw yma! Mae'r peth yn amlwg – nhw gafodd yr ysgrifau sanctaidd ganddo! Felly beth mwy sydd i'w ddweud? Mae'r byd i gyd yn wynebu barn Duw.
20. Does neb byw yn gallu bod yn iawn gyda Duw trwy wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn. Beth mae'r Gyfraith yn ei wneud go iawn ydy dangos ein pechod i ni.
21. Ond mae Duw bellach wedi dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn gydag e. Dim cadw'r Gyfraith Iddewig ydy'r ffordd, er bod y Gyfraith a'r Proffwydi yn dangos y ffordd i ni.
22. Y rhai sy'n credu sy'n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae'r un fath i bawb
23. am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau eu hunain.
24. Duw sy'n gwneud y berthynas yn iawn. Dyma ydy rhodd Duw i ni am fod y Meseia Iesu wedi gwneud popeth oedd ei angen i'n gollwng ni'n rhydd.
25. Trwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e yn aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e.
26. Ac mae'n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy'n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e'i hun.
27. Felly oes gynnon ni'r Iddewon le i frolio? Nac oes! Pam ddim? – Yn wahanol i gadw'r Gyfraith Iddewig dydy credu ddim yn rhoi unrhyw le i ni frolio.
28. A dŷn ni'n hollol siŵr mai credu yn Iesu sy'n gwneud ein perthynas ni gyda Duw yn iawn, dim ein gallu ni i wneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
29. Neu ydyn ni'n ceisio honni mai Duw'r Iddewon yn unig ydy Duw? Onid ydy e'n Dduw ar y cenhedloedd eraill i gyd hefyd? Wrth gwrs ei fod e –
30. “Un Duw sydd” ac un ffordd sydd o gael ein derbyn i berthynas iawn gydag e hefyd. Mae e'n derbyn Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) trwy iddyn nhw gredu, ac mae e'n derbyn pawb arall (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛) yn union yn yr un ffordd.