Rhufeiniaid 16:15-20 beibl.net 2015 (BNET)

15. Cofion at Philologws a Jwlia, Nerews a'i chwaer, ac Olympas a phob un o'r credinwyr eraill sydd gyda nhw.

16. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae eglwysi'r Meseia i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.

17. Dw i'n apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylio'r bobl hynny sy'n creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw.

18. Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith.

19. Ond mae pawb yn gwybod eich bod chi'n ufudd i'r Arglwydd, a dw i'n hapus iawn am hyn. Dw i am i chi fod yn ddoeth wrth wneud daioni ac yn ddieuog o wneud unrhyw ddrwg.

20. A bydd Duw, sy'n rhoi'r heddwch dwfn, yn eich galluogi i sathru Satan a'i fathru dan eich traed yn fuan.Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi haelioni rhyfeddol ein Harglwydd Iesu.

Rhufeiniaid 16