1. Dim ond pethau da sydd gen i i'w dweud am Phebe, ein chwaer sy'n gwasanaethu yn eglwys Cenchrea.
2. Rhowch groeso brwd iddi – y math o groeso mae unrhyw un sy'n credu yn yr Arglwydd yn ei haeddu. Rhowch iddi pa help bynnag sydd arni ei angen. Mae hi wedi bod yn gefn i lawer iawn o bobl, gan gynnwys fi.
3. Cofiwch fi at Priscila ac Acwila, sy'n gweithio gyda mi dros y Meseia Iesu.
4. Dau wnaeth fentro eu bywydau er fy mwyn i. A dim fi ydy'r unig un sy'n ddiolchgar iddyn nhw, ond holl eglwysi'r cenhedloedd hefyd!
5. Cofion hefyd at yr eglwys sy'n cyfarfod yn eu tŷ nhw.Cofiwch fi at fy ffrind annwyl Epainetws – y person cyntaf yn Asia i ddod yn Gristion.
6. Cofiwch fi at Mair, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ar eich rhan.
7. Hefyd at Andronicus a Jwnia, cyd-Iddewon fuodd yn y carchar gyda mi. Mae nhw'n adnabyddus fel cynrychiolwyr i'r Arglwydd – roedden nhw'n credu yn y Meseia o'm blaen i.
8. Cofion at Ampliatus, sy'n ffrind annwyl i mi yn yr Arglwydd.
9. Cofion hefyd at Wrbanus, sy'n gweithio gyda ni dros y Meseia, ac at fy ffrind annwyl Stachus.
10. Cofiwch fi at Apeles, sydd wedi profi ei hun yn ffyddlon i'r Meseia.Cofion at bawb sy'n gwasanaethu yn nhŷ Aristobwlus.
11. Cofiwch fi at Herodion sydd yntau'n Iddew, ac at y Cristnogion hynny sy'n gwasanaethu yn nhŷ Narcisws.
12. Cofiwch fi at Tryffena a Tryffosa, dwy wraig sy'n gweithio'n galed dros yr Arglwydd.A chofiwch fi hefyd at Persis annwyl – gwraig arall sydd wedi bod yn gweithio'n arbennig o galed dros yr Arglwydd.
13. Cofion at Rwffus, gwas arbennig i'r Arglwydd, ac at ei fam sydd wedi bod fel mam i minnau hefyd.
14. A chofiwch fi at Asyncritus, Phlegon, Hermes, Patrobas, Hermes a'r brodyr a'r chwiorydd eraill gyda nhw.
15. Cofion at Philologws a Jwlia, Nerews a'i chwaer, ac Olympas a phob un o'r credinwyr eraill sydd gyda nhw.
16. Cyfarchwch eich cyd-Gristnogion yn llawn cariad. Mae eglwysi'r Meseia i gyd yn anfon eu cyfarchion atoch chi.
17. Dw i'n apelio atoch chi frodyr a chwiorydd, i wylio'r bobl hynny sy'n creu rhaniadau ac yn ceisio'ch cael i wneud yn groes i beth wnaethoch chi ei ddysgu. Cadwch draw oddi wrthyn nhw.
18. Gwasanaethu eu boliau eu hunain mae pobl felly, dim gwasanaethu'r Meseia, ein Harglwydd ni. Maen nhw'n twyllo pobl ddiniwed gyda'u seboni a'u gweniaith.