12. Byddwn i a chithau'n cael ein calonogi wrth i ni rannu'n profiadau.
13. Dw i am i chi ddeall, frodyr a chwiorydd annwyl, fy mod i wedi bwriadu dod acw lawer gwaith, ond mae rhywbeth wedi fy rhwystro bob tro hyd yn hyn. Dw i eisiau gweld mwy a mwy o bobl Rhufain yn dod i gredu yn Iesu, fel sydd wedi digwydd yn y gwledydd eraill lle dw i wedi bod.
14. Mae'n rhaid i mi ddweud am Iesu wrth bawb – mae fel petai gen i ddyled i'w thalu! Dim ots os ydyn nhw'n bobl ddiwylliedig sydd wedi cael addysg neu'n farbariaid cwbl ddi-addysg.
15. A dyna pam dw i mor awyddus i ddod atoch chi yn Rhufain hefyd i gyhoeddi'r newyddion da.
16. Does gen i ddim cywilydd o'r newyddion da o gwbl. Dyma'r ffordd rymus mae Duw'n gweithio i achub pawb sy'n credu – yr Iddew a phawb arall hefyd.
17. Dyma'r newyddion da sy'n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e'n ffyddlon. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud: “Trwy ffydd mae'r un sy'n iawn gyda Duw yn byw.”
18. Ond mae Duw yn y nefoedd yn dangos ei fod yn ddig ac yn cosbi'r holl bethau drwg mae pobl yn eu gwneud yn ei erbyn. Maen nhw'n mygu'r gwirionedd gyda'u drygioni.