1. Llythyr gan Paul – gwas y Meseia Iesu. Dw i wedi cael fy newis gan Dduw i fod yn gynrychiolydd personol iddo, ac wedi cael fy anfon allan i rannu newyddion da Duw.
2. Dyma'r newyddion da gafodd ei addo ymlaen llaw drwy beth ddwedodd y proffwydi yn yr ysgrifau sanctaidd. Ie, y newyddion da
3. am ei Fab, Iesu y Meseia, ein Harglwydd ni. Fel dyn, roedd Iesu yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd,
4. ond dangosodd yr Ysbryd Glân mewn ffordd rymus ei fod e hefyd yn Fab Duw, pan gafodd ei godi yn ôl yn fyw ar ôl iddo farw.
5. Mae Duw wedi rhoi i ni y fraint a'r cyfrifoldeb o'i gynrychioli, ac o alw pobl o bob gwlad i gredu ynddo ac i fyw'n ufudd iddo.
6. A dych chi'n rhai o'r bobl hynny – wedi cael eich galw i berthynas â Iesu y Meseia.
7. Dw i'n ysgrifennu atoch chi i gyd yn Rhufain. Chi sydd wedi eich caru gan Dduw a'ch gwneud yn bobl arbennig iddo.Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n profi'r haelioni rhyfeddol a'r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni.
8. Dw i eisiau i chi wybod yn gyntaf fy mod i'n diolch i Dduw trwy Iesu y Meseia amdanoch chi i gyd, achos mae pobl drwy'r gwledydd i gyd yn sôn am eich ffydd chi.
9. Dw i wrthi'n gweithio fy ngorau glas dros Dduw trwy gyhoeddi'r newyddion da am ei Fab, ac mae e'n gwybod mod i'n gweddïo drosoch chi o hyd ac o hyd.
10. Dw i'n gweddïo y bydd e'n ei gwneud hi'n bosib i mi ddod atoch chi o'r diwedd.
11. Dw i wir yn hiraethu am gael dod i'ch gweld chi, i mi gael rhannu rhyw fendith ysbrydol gyda chi fydd yn eich gwneud chi'n gryf.