Philemon 1:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Mae dy gariad di wedi bod yn galondid ac yn achos llawenydd mawr i mi, ffrind annwyl, ac rwyt ti wedi bod yn gyfrwng i galonogi'r Cristnogion eraill hefyd.

8. Dyna pam dw i am ofyn ffafr i ti. Gallwn i siarad yn blaen a dweud wrthot ti beth i'w wneud, gan bod yr awdurdod wedi ei roi i mi gan y Meseia.

9. Ond am fy mod i'r math o berson ydw i – Paul yr hen ddyn bellach, ac yn y carchar dros achos y Meseia Iesu – mae'n well gen i apelio atat ti ar sail cariad.

10. Dw i'n apelio ar ran Onesimws, sydd fel mab i mi yn y ffydd. Ydw, dw i wedi ei arwain e i gredu tra dw i wedi bod yma yn y carchar.

11. ‛Defnyddiol‛ ydy ystyr ei enw, ac mae'n haeddu'r enw bellach, er mai ‛diwerth‛ fyddai'r enw gorau iddo o'r blaen. A bellach mae'n ddefnyddiol i mi yn ogystal ag i ti.

12. Er ein bod ni wedi dod yn ffrindiau mor glos dw i'n ei anfon yn ôl atat ti.

13. Byddwn i wrth fy modd yn ei gadw yma, iddo fy helpu i ar dy ran di tra dw i mewn cadwyni dros y newyddion da.

14. Ond dy ddewis di fyddai hynny a byddai'n rhaid i ti gytuno – dw i ddim am dy orfodi di i wneud dim byd.

15. Mae'n bosib mai'r rheswm pam gawsoch chi eich gwahanu am ychydig oedd er mwyn i ti ei gael yn ôl am byth!

16. Dim fel caethwas o hyn ymlaen, ond yn llawer gwell na hynny – fel ffrind annwyl sy'n credu yn Iesu Grist yr un fath â ti. Mae wedi bod yn werthfawr iawn i mi, ond bydd yn fwy gwerthfawr fyth i ti, fel gwas ac fel brawd sydd fel ti yn credu yn yr Arglwydd.

17. Felly os wyt ti'n cyfri dy fod yn bartner i mi, rho'r un croeso i Onesimws ag a fyddet ti'n ei roi i mi.

Philemon 1