Numeri 9:15-23 beibl.net 2015 (BNET)

15. Y diwrnod pan gafodd y Tabernacl ei godi, dyma gwmwl yn ei orchuddio – sef pabell y dystiolaeth. Yna gyda'r nos tan y bore wedyn roedd yn edrych fel petai tân uwch ben y Tabernacl.

16. A dyna sut oedd pethau drwy'r adeg. Roedd y cwmwl oedd yn ei orchuddio drwy'r dydd yn troi i edrych fel tân yn y nos.

17. Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y babell roedd pobl Israel yn cychwyn ar eu taith. Yna ble bynnag roedd y cwmwl yn setlo byddai pobl Israel yn codi eu gwersyll.

18. Felly, yr ARGLWYDD oedd yn dangos i bobl Israel pryd i symud a ble i stopio. Bydden nhw'n dal i wersylla yn yr un fan tra byddai'r cwmwl yn aros dros y Tabernacl.

19. Weithiau roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl am amser hir, a fyddai pobl Israel ddim yn symud y gwersyll nes roedd yr ARGLWYDD yn dweud.

20. Dro arall roedd y cwmwl dim ond yn aros dros y Tabernacl am ychydig ddyddiau. Felly roedd y bobl yn gwersylla am y dyddiau hynny, ac yna'n symud ymlaen pan oedd yr ARGLWYDD yn dweud.

21. A weithiau doedd y cwmwl ddim ond yn aros dros nos. Pan oedd y cwmwl yn codi y bore wedyn, roedden nhw'n symud ymlaen. Pryd bynnag roedd y cwmwl yn codi, yn y dydd neu yn y nos, roedden nhw'n symud yn eu blaenau.

22. Roedd pobl Israel yn aros yn y gwersyll am faint bynnag roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl – boed hynny'n ddeuddydd, yn fis, neu'n flwyddyn. Ond pan oedd y cwmwl yn codi, roedden nhw'n teithio yn eu blaenau.

23. Yr ARGLWYDD oedd yn dweud pryd oedden nhw'n teithio a pryd oedden nhw'n gwersylla. Roedden nhw'n gwneud yn union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud trwy Moses.

Numeri 9